Home

Croeso i wefan Ysgol Penygroes

Gair gan y Pennaeth Mr Mathew Lemon…

Mae Ysgol Penygroes yn ysgol hapus, bywiog a chroesawgar lle gwelir pawb yn cyd-weithio i ddarparu amrywiaeth o brofiadau ac ystod o gyfleoedd  gyda’r nod o osod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol pob plentyn.

Ysbrydolwn ein disgyblion trwy gyflwyno cwricwlwm eang a chyfrous sy’n cael ei gynllunio trwy ddull themateg.   Ein nod yw i annog pob disgybl i feithrin hunanhyder yn eu gallu personol: mae gennym ddisgwyliadau uchel sy’n rhoi pwyslais ar bawb i geisio eu gorau glas.

Mae plant yn dysgu orau pan yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel felly mae holl staff yr ysgol yn ymroddedig i gefnogi’n disgyblion a’u teuluoedd i sicrau eu bod yn barod ac yn abl i ddysgu.  Anelwn at sicrhau fod profiadau dysgu’r disgyblion yn berthnasol, cyffrous a phwrpasol ac wedi eu seilio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol.

Gobeithio y gwnewch fwynhau crwydro ein gwefan a darganfod mwy am ein hysgol.  Ond, pe bai gennych gwestiynnau ychwanegol yna peidiwch oedi cysylltu â ni’n uniongyrchol.

Mae’r staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni i gyd yn chwarae rhan allweddol yn nhaith addysgol pob plentyn.  Edrychwn ymlaen at ddod i adnabod eich plentyn a rannu’r daith yma gyda nhw.

Diolch

Mr M Lemon

Derbyn i ysgolion


Childline