Cartref

Croeso i wefan Ysgol Gymraeg Penygroes

“Tyfu drwy’r iaith, dysgwn ar y daith”

Ein Gweledigaeth

Ein nod fel ysgol yw meithrin, ysbrydoli, herio a chefnogi ein disgyblion drwy gynnig profiadau eang , symbylgar a chreadigol. Ein bwriad yw galluogi disgyblion Penygroes i fod yn ddysgwyr gydol oes a fydd yn cyrraedd eu llawn potensial mewn byd sy’n gyson datblygu. Y gobaith yw y bydd disgyblion Penygroes wedi’u harfogi i gwrdd â’r sialensiau a ddaw oherwydd byddant yn unigolion annibynnol, gwytn, medrus a chydweithredol. Anelwn at gael disgyblion cydwybodol, parchus a fydd yn ymfalchÏo yn eu hetifeddiaeth, traddodiadau a’u hiaith.

Gobeithio y gwnewch fwynhau crwydro ein gwefan a darganfod mwy am ein hysgol.  Ond, pe bai gennych gwestiynnau ychwanegol yna peidiwch oedi cysylltu â ni’n uniongyrchol.

01269 844477

admin@penygroes.ysgolccc.cymru

Mae’r staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni i gyd yn chwarae rhan allweddol yn nhaith addysgol pob plentyn.  Edrychwn ymlaen at ddod i adnabod eich plentyn a rannu’r daith yma gyda nhw.

Diolch

Mr Mathew Lemon

https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/penygroes-c-p-school-cy

Derbyn i ysgolion


Childline